Manon Antoniazzi
 Y Prif Weithredwr a’r Clerc
 Cynulliad Cenedlaethol Cymru
 Bae Caerdydd
 CF99 1NA

     

    

 

28 Ebrill 2020

Annwyl Manon,

Caffael cynulliad dinasyddion

Fel y gwyddoch, ym mis Ionawr, cytunodd Comisiwn y Cynulliad y dylid sicrhau bod arian ar gael i alluogi'r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i gaffael cynulliad dinasyddion i lywio ei waith. Mae'r Pwyllgor yn dal i gredu'n gryf ym mhwysigrwydd ymgysylltiad cyhoeddus cadarn, ystyriol ynghylch maint y ddeddfwrfa a sut mae Aelodau'n cael eu hethol. Fodd bynnag, yn groes i’r graen, rydym wedi dod i'r casgliad nad yw'n bosibl inni barhau i gaffael cynulliad dinasyddion yng nghyd-destun argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19.

Mae methodoleg cynulliad dinasyddion wedi ennill ei phlwyf fel mecanwaith uchel ei barch ar gyfer trafodaeth ofalus a gwybodus ac fel ffordd o ddatblygu consensws ar faterion sensitif, cymhleth a dadleuol. Am y rheswm hwn, trwy gydol ein gwaith, rydym wedi rhoi blaenoriaeth sylweddol ar gynnal cynulliad dinasyddion i alluogi grŵp cynrychioliadol o bobl o bob rhan o Gymru i ddod ynghyd i ddysgu am faterion yn ymwneud â chapasiti’r Cynulliad a sut mae ei Aelodau'n cael eu hethol, i drafod y materion hyn a dod i gonsensws yn eu cylch.

Ein bwriad cychwynnol oedd gwahodd 40 o gyfranogwyr i ddigwyddiadau yn y Senedd dros ddau benwythnos ym mis Gorffennaf. Yn ystod digwyddiadau’r penwythnosau hyn, byddai'r cyfranogwyr wedi cael cyfle i glywed yn uniongyrchol gan arbenigwyr, i ofyn cwestiynau am y materion dan ystyriaeth, ac i drafod y materion hyn ymysg ei gilydd er mwyn dod i'w casgliadau eu hunain ynglŷn â gallu Cynulliad â 60 o Aelodau i gyflawni ei gyfrifoldebau i bobl Cymru yn effeithiol. Ganol mis Mawrth, yng ngoleuni arweiniad cynnar y Llywodraeth mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol a hunanynysu, gohiriwyd y digwyddiadau tan ddechrau mis Medi, gan obeithio y byddai'n bosibl ymgymryd â'r gwaith ymgysylltu pwysig hwn bryd hynny. Fodd bynnag, ers inni benderfynu gwneud hynny, mae'r sefyllfa wedi newid yn sylweddol: mae’r cyfyngiadau o ran cadw pellter cymdeithasol, hunanynysu, gwarchod a chwarantin yn fwy llym, a byddai’n rhesymol cymryd y bydd y cyfyngiadau hyn ar waith yn hirach o lawer na'r disgwyl.

Mae cynrychiolaeth a chynwysoldeb wrth wraidd methodoleg cynulliad y dinasyddion. Er enghraifft, byddem am sicrhau bod lleisiau'n cael eu clywed o bob rhan o Gymru, o bob grŵp oedran, gan bobl o amrywiaeth o gefndiroedd a chan bobl ag anableddau a phobl heb anableddau. Credwn y byddai cynnal digwyddiad o’r fath o dan yr amgylchiadau presennol yn peryglu’r cynwysoldeb hwn, gan y bydd rhai, os nad y cyfan, o'r boblogaeth yn parhau i fod o dan gyfyngiadau gwarchod, hunanynysu neu gadw pellter cymdeithasol am rai wythnosau neu fisoedd i ddod, a bydd adnoddau ac ymdrechion y Cynulliad a Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n briodol ar y frwydr yn erbyn pandemig COVID-19.

Mae'n ddyletswydd ar y Cynulliad a'i bwyllgorau i sicrhau diogelwch y rhai sy'n dod i ddigwyddiadau a’r rhai sy’n darparu digwyddiadau a gynhelir ar yr ystâd ac yn yr un modd y rhai sy’n hysbysu busnes y Cynulliad. O dan yr amgylchiadau presennol, ni allwn fod yn sicr y byddai bwrw ymlaen â chaffael cynulliad dinasyddion ar gyfer ei gynnal ym mis Medi yn unol â'r ddyletswydd hon, nac ychwaith yn gyson â rôl bwysig y Cynulliad i fod yn esiampl gyhoeddus o’r ymddygiad a ddisgwylir yn y gymdeithas ehangach yn ystod y pandemig.

Rydym wedi ystyried defnyddio technoleg i hwyluso rhith-ddigwyddiad, ar ffurf cynulliad dinasyddion. Fodd bynnag, daethom i'r casgliad y gallai rhith-ddigwyddiad o'r natur hon gyfaddawdu cadernid methodolegol, natur ystyriol, cynrychiolaeth a chynwysoldeb dull dibynadwy ac uchel ei barch y cynulliad dinasyddion. Nid ydym yn credu, felly, y byddai'n cyflawni yn ddigonol ein hamcan o geisio deall a gwrando ar farn wybodus y cyhoedd am y materion sydd o fewn ein cylch gwaith.

Rydym yn ddiolchgar i Gomisiwn y Cynulliad am ddyrannu'r arian i’n galluogi i gaffael cynulliad dinasyddion er mwyn ymdrin â’r materion pwysig hyn, ond rydym wedi dod i'r casgliad, o anfodd, fod yr amgylchiadau presennol yn golygu na allwn fwrw ymlaen â'r gwaith caffael ar yr adeg hon. Felly, ni fyddwn yn codi’r arian a ddyrannwyd inni yng nghyllideb y Comisiwn ar gyfer 2020-21. Serch hynny, lle bo diwygio’r sefydliad yn y cwestiwn, rydym yn parhau i fod o'r farn y byddai ymgysylltiad cadarn, ystyriol â’r cyhoedd ar y materion hyn yn werthfawr o ran llywio’r gwaith hwnnw, a byddwn yn ymdrin ymhellach â’r mater hwn yn ein hadroddiad maes o law.

Yn gywir,

Dawn Bowden AC
Cadeirydd
Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad

 

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.